We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Dal y Gannwyll

by Popeth

/
  • Streaming + Download

    Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    Purchasable with gift card

      £1 GBP  or more

     

about

Fersiwn o gân Sobin a'r Smaeliaid - yn wreiddiol oddi ar y tâp "Ta-Ta Botha", gan Sain yn 1989. // Cover of Sobin a'r Smaeliaid's song from the "Ta-Ta Botha" cassette, 1989.

lyrics

Be fysa wedi digwydd tasa ti di gwrando’r gri,
Tasa ti di brathu’r afal, di dawnsio hefo fi?
Dim boddi ym môr euogrwydd, ond nofio hefo’r lli,
Gadael serch dy frathu a dawnsio hefo fi.

Dal y gannwyll (llosgi'r nwyon)
Bod yn chdi (bod yn fodlon)
Dal y gannwyll oedd dy drosedd
Gwaed ein cariad ar dy fysedd...


Be fysa wedi digwydd, taswn i heb ffoi i'r nos?
Gadael bwrdd y cardia noeth, brenhines calon dlos.
Mae'r joker sy'n dy lawes, yn chwerthin ar fy mhen,
A minnau wedi gamblo, ffrind ‘di ffrind - Amen!

Dal y gannwyll (llosgi'r nwyon)
Bod yn chdi (bod yn fodlon)
Dal y gannwyll oedd dy drosedd
Gwaed ein cariad ar dy fysedd...


Be fysa wedi digwydd tasa ti di blasu’r medd
‘Di meddwi yn fy mreichia, sobri yn yr hedd?
Tanio matsian natur a llyncu mŵg ein serch
Diolch a dam am beidio, welai di eto ferch.

Dal y gannwyll (llosgi'r nwyon)
Bod yn chdi (bod yn fodlon)
Dal y gannwyll oedd dy drosedd
Gwaed ein cariad ar dy fysedd...
Dal y gannwyll, dal yn wylo (dal yn wylo)
Dal y gannwyll, dal yn wylo (dal yn wylo)
Dal y gannwyll (llosgi'r nwyon)
Bod yn chdi (bod yn fodlon)
Dal y gannwyll, dal yn wylo
Cyfle’n llithro drwy ein dwylo.

credits

released April 8, 2024
Gan: Bryn Fôn, Dafydd Les, Meredydd Morris

license

all rights reserved

tags

about

Popeth Wales, UK

A Cardiff based Pop Factory, collaborating to deliver Welsh Pop to the world. Inclusive. Progressive. Follow Popeth on all the socials, latest news on website / Project cerddoriaeth efo'r pwyslais ar gydweithio i gynhyrchu Pop Cymraeg i’r byd! Mae’n broject blaengar a chynhwysol a’r caneuon sydd wedi eu cyfansoddi yn llenwi’r gofod yn sîn gerddoriaeth Gymraeg am "bop electro, disglair a phositif". ... more

contact / help

Contact Popeth

Streaming and
Download help

Report this track or account

If you like Popeth, you may also like: