We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Agor y Drysau

by Popeth

supported by
cododdnieto
cododdnieto thumbnail
cododdnieto Iawn lad!
Rydyn ni bob amser yn cadw ein drysau ar glo, wasters o gwmpas lol!
Hoffwn llais y hogan a miwsig.
Cadw ffwnclyd..
Emily K & Genod A5 Ynys Mon
/
  • Streaming + Download

    Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    Purchasable with gift card

      £1 GBP  or more

     

lyrics

Agor y drysau, cym’ eiliad i syllu,
bob dydd bydd na gyfle’n dod i’th ran.
Agor dy galon, yna byw dy freddwydion,
cym' gam o’r cysgodion, cam ymlaen.

Cad' dy ben uwchben y tonnau,
drwy’r stormydd drwy'r glaw.
Paid a derbyn bod na’m lle i fynd
fe ddaw na gyfle, ie, fe ddaw

Pan ti’n agor y drysau, a ti’n datod y clymau,
mae na haul ar y gorwel sydd yn olau i ti.
A ti’n agor y drysau, ac yn dathlu bob cyfle,
mae na aur ar y gorwel sydd yn wobr i ti.

Agor y drysau, cym’ eiliad i anadlu
gna’n fawr o bob awr sy’n dod i’th ran.
Agor dy lygaid, a gweld y rhyfeddodau,
mond her, nid anhawster, sydd ar gael.

Cad' dy ben uwchben y tonnau,
drwy’r stormydd drwy'r glaw.
Paid a derbyn bod na’m lle i fynd
fe ddaw na gyfle, ie, fe ddaw

Pan ti’n agor y drysau, a ti’n datod y clymau,
mae na haul ar y gorwel sydd yn olau i ti.
A ti’n agor y drysau, ac yn dathlu bob cyfle,
mae na aur ar y gorwel sydd yn wobr i ti.

Gadael byd sy’n llawn ansicrwydd.
Agor ddrws i gyfle newydd.

Pan ti’n agor y drysau, a ti’n datod y clymau,
mae na haul ar y gorwel sydd yn olau i ti.
A ti’n agor y drysau, ac yn dathlu bob cyfle,
mae na aur ar y gorwel sydd yn wobr i ti.

A ti’n agor y drysau, a ti’n datod y clymau,
mae na haul ar y gorwel sydd yn olau i ti,
A ti’n agor y drysau, ac yn dathlu bob cyfle,
mae na aur ar y gorwel sydd yn wobr i ti.
Sydd yn ddisglair i ti,
Sydd yn arwain ar lwybr newydd clir.

credits

released March 24, 2023
Cyfansoddwyd gan/Composed by: Ynyr Gruffudd Roberts

license

all rights reserved

tags

about

Popeth Wales, UK

A Cardiff based Pop Factory, collaborating to deliver Welsh Pop to the world. Inclusive. Progressive. Follow Popeth on all the socials, latest news on website / Project cerddoriaeth efo'r pwyslais ar gydweithio i gynhyrchu Pop Cymraeg i’r byd! Mae’n broject blaengar a chynhwysol a’r caneuon sydd wedi eu cyfansoddi yn llenwi’r gofod yn sîn gerddoriaeth Gymraeg am "bop electro, disglair a phositif". ... more

contact / help

Contact Popeth

Streaming and
Download help

Report this track or account

If you like Popeth, you may also like: